Ymgynghoriad ar y Bil Teithio Llesol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gyfrifol am wasanaethau cynllunio trefol a mynediad i’r Cefn Gwlad.  Nid ydym yn “awdurdod lleol” mewn ystyr y Bil.  Dyma fy sylwadau ar y Bil mewn ymateb i’ch gwahodiad dyddiedig 22 Chwefror 2013. Yr wyf wedi dilyn y patrwm yn eich llythyr.

1.      Oes angen bil?                                                                                                                              Credaf fod canlyniadau’r Bil yn debygol o fod yn bositif, trwy annog awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru baratoi ar gyfer teithio llesol.                                                                                              Dylai bod yn bosibl annog awdurdodau i weithredu trwy brosesau sydd eisoes mewn bodolaeth. Er enghraifft, mae Polisi Strategol L, Cynllun Datblygu Lleol Eryri 2007 – 2022 yn dechrau: “Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymroddedig i wella mynediad at gyfleusterau lleol a lleihau’r angen i deithio yn enwedig mewn ceir preifat…”  Mae’r Polisi hefyd yn sôn am “…mynediad cyfleus trwy gyfrwng llwybrau cyhoeddus, llwybrau beicio…cyfleusterau parcio beiciau diogel…llwybrau hamdden a ddynodir ar y mapiau cynigion…”

Mabwysiadwyd y Cynllun drwy benderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, 13 o Orffennaf 2011.   

2.      Gofynion y Bil.

Dylai awdurdodau priffyrdd lleol cyhoeddu mapiau sydd yn dangos priffyrdd wedi’u mabwysiadu, priffyrdd ar gyfer cerbydau modur heb eu mabwysiadu, llwybrau cyhoeddus, llwybrau beicio, llwybrau troed caniataol, llwybrau march, cilffyrdd yn agored i bob trfnidiaeth a chilffyrdd cyfyngedig.  Os oes angen bil newydd er mwyn sicrhau hwn, buasai’r Bil yn fanteisiol.                                                                                                                        Dylai awdurdodau priffyrdd lleol cyhoeddu cynlluniau i wella priffyrdd o bob math ac i greu priffyrdd newydd.  Os oes angen bil newydd er mwyn sicrhau hwn, buasai’r Bil yn fanteisiol.    Bydd y dyletswyddi cyhoeddu pendant yn Adran 5 yn debygol o fod yn fanteisiol.                Ni ddylai bod angen bil er mwyn sicrhau amcanion Adran 6, sef cynllunio dros drafnidiaeth lleol.  Dylai Adran 108, Deddf Trafnidiaeth 2000, fod yn ddigonol.                                                                                                Efallai, bydd y dyletswyddi i wella darpariaeth yn Adran 7 yn fanteisiol.                                  Mae diffyg darpariaeth ar gyfer beicwyr a cherddwyr adeg cynllunio ac adeiladu’r A55 fel ffordd deuol ger ffin gogleddol y Parc Cenedlaethol yn dangos angen Adran 8 y Bil.                    

3.      Ymgynghoriad adeg y Papur Gwyn.                                                                                          Dim sylwadau.

4.      Dulliau eraill i gyflwyno amcanion y Bil. 

Gweler sylwadau dan Rhif 1 uchod.

5.      Beth sydd yn rhwystro teithio llesol?

Mae fy sylwadau ar bethau sydd yn rhwystro teithio llesol yn seileidig ar waith ymchwil “Understanding Walking and Cycling” (POOLEY G F and OTHERS, Lancaster University, Lancaster 2011) yn ogystal â phrofiad o gwmpas Parc Cenedlaethol Eryri.                             Ni fyddaf yn teimlo yn gyfforddus wrth feicio ar ffordd fawr frysur wedi’i rhannu efo ceir a cerbydau eraill. Ni fyddaf yn teimlo’n gyfforddus wrth gerdded ar balmaint wedi’i rannu efo beicwyr, yn enwedig os nad ydynt yn defnyddio golau yn y tywyllwch neu glychau ar unrhyw adeg.                                                                                                                                              Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi creu Llwybr Mawddach ar gyfer beicwyr a cherddwyr.  Yr ydym wedi sicrhau llwybr llydan efo arwyddion yn datgan bod y llwybr ar gael i feicwyr a cherddwyr, efo cerddwyr yn cael blaenoriaeth.                                                 Mae sawl llwybr newydd ar ochr cefnffyrdd a ffyrdd Dosbarth “A” eraill yn Eryri a Gwynedd. Mae rhai ohonynt yn gul, a nid yw’n glir os ydynt ar gyfer cerddwyr yn unig, neu gerddwyr a beicwyr.  Mae Adran 72, Deddf  Priffyrdd 1835, yn atal beicio ar balmant.   Felly, ni hoffwn feicio ar lwybyr newydd ar ochr y ffordd heb wybod ei statws.

Mae’r gwaith Pooley ac eraill yn awgrymu annog newid ymddwyn modurwyr tuag at feicwyr a cherddwyr, er mwyn lleihau ofnau gan ddarpar deithwyr llesol.  Maent yn awgrymu polisïau fydd o gymorth i bob teithiwr llesol, gwell darpariaeth ar gyfer plant efo rhieni sydd yn gweithio a gwell cyfleusterau storio beiciau adre, yn yr ysgol ac yn y gwaithle.  Hefyd, meant yn awgrymu annog cerdded a beicio fel rhywbeth i bawb, nid efengylwyr uwch heini yn unig.

6.      Oblegiadau ariannol.                                                                                                                    Credaf fod costau goresgyn diffyg darpariaeth ar yr A55 wedi bod yn llawer uwch na chostau darpau yn ddigonol adeg creu’r ffordd deuol.

7.      Lefel manylion.

Dim sylwadau

8.      Materion eraill.

Mae Polisi Cyhoeddus ar Addysg, Iechyd a meysydd eraill wedi arwain at ganoli gwasanaethau mewn modd sydd yn debygol o ychwanegu at y nifer o deithiau mewn car, bws ac ambiwlans ac i leihau’r nifer o deithiau ar droed neu ar feic.  Mae ysbytai ac ysgolion cynradd gwledig wedi’u cau.  Mae siopau mawr efo meysydd parcio mawr preifat wedi’u hagor , a swyddfeydd post a siopau bach eraill mewn trefi a phentrefi wedi’u cau.  

Bu cais cynllunio am ysgol gynradd newydd yn Eryri yn 2012.  Buasai’r ysgol newydd yn cymryd lle ysgolion pentrefi presennol. Derbynwyd llawer o wrthwynebiadau ar sail teithiau car a bws ychwanegol.  Cyfeiriodd adroddiad y Swyddog Cynllunio at Bolisi Strategol L, sydd yn annog teithio llesol.  (Gweler rhif 1 uchod am amcanion Polisi Strategol L, Cynllun Datblygu Lleol Eryri). Ond yn ôl yr adroddiad “Nid yw’r awdurdod mewn sefyllfa i gwestiynnu’r angen (yr Awdurdod Addysg sy’n gyfrifol am bwrpasau o’r fath).”  Rhoddwyd caniatâd cynllunio.  

Credaf fod dadlau cryf dros ganoli addysg ac iechyd er mwyn gwella safonnau.                     Ni welaf unrhywbeth yn yr Ymgynghoriad i helpu Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried gofynion Teithio Llesol yn erbyn gofynion Awdurdodau Iechyd ac Adrannau Addysg.